GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

005 - Rheoliadau Gwastraff ac Amaethyddiaeth (Swyddogaethau Deddfwriaethol) 2022

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 13 Ionawr 2022

Sifftio

A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU?

Na fydd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Cefndir

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Crynodeb

Gwneir y Rheoliadau hyn i fynd i'r afael â’r ffaith nad yw cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n effeithiol neu â diffygion eraill sy'n deillio o’r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

 

Mae’r Rheoliadau yn darparu bod swyddogaethau deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd o dan amryfal Gyfarwyddebau Gwastraff yn arferadwy yn lle hynny gan awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig. Bydd Rheoliadau 2021 yn trosglwyddo swyddogaethau sy’n ymwneud â materion polisïau datganoledig i Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol (SoS) mewn perthynas â Lloegr, Gweinidogion yr Alban mewn perthynas â’r Alban a DAERA yng Ngogledd Iwerddon (yn ddarostyngedig i eithriadau a nodir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon).

 

Ar gyfer pob un o’r pwerau sy’n cael eu trosglwyddo nid oes pŵer domestig cyfatebol. Mae llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol dyddiedig 7 Ionawr 2022 yn cadarnhau na fydd angen arfer y swyddogaethau sy’n dychwelyd a ddarperir gan Reoliadau 2021 ar unwaith, byddant yn dod yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir. Bydd rheolaethau presennol yn parhau i fod yn gymwys tan fod angen iddynt newid

 

Mae'r Rheoliadau hefyd yn cywiro gwall yn y ddarpariaeth bresennol ar gyfer swyddogaethau deddfwriaethol yn ymwneud ag amaethyddiaeth. Mae Rheoliadau 2021 yn mewnosod diffiniad a hepgorwyd ar gyfer “awdurdod perthnasol” (“appropriate authority”) yn Rheoliad REUL 1306/2013 ar gyllidebu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin. Mae’r diffiniad yn golygu mai Gweinidogion Cymru yw’r “awdurdod perthnasol” mewn perthynas â Rheoliad REUL 1306/2013 gyda’r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu gweithredu mewn amgylchiadau cyfyngedig, penodol gyda chaniatâd Gweinidogion Cymru.

 

Datganiad gan Lywodraeth Cymru

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â’r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 17 Ionawr 2022 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

 

Fodd bynnag, mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol hefyd yn nodi mai Rheoliadau Gwastraff ac Amaethyddiaeth (Swyddogaethau Deddfwriaethol) 2022 yw’r Rheoliadau drafft y mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn ymwneud â hwy, nid Rheoliadau 2021. Yn wahanol i bob datganiad ysgrifenedig arall a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y Chweched Senedd, nid yw’r datganiad hwn yn darparu linc i’r Rheoliadau nac i’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig sy’n nodi tarddiad, diben ac effaith y diwygiadau.

 

Mewn llythyr wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad dyddiedig 8 Tachwedd 2021, darparodd y Prif Weinidog:

Gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu i’ch pwyllgor a phwyllgorau perthnasol eraill i roi gwybod iddynt am fwriad i roi cydsyniad i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru, gan egluro’r sail resymegol dros y bwriad i roi cydsyniad. Pan fydd amser yn caniatáu, byddwn yn rhoi cyfle i’r Senedd fynegi barn cyn y rhoddir cydsyniad yn ffurfiol.

 

Fodd bynnag, mae paragraff 15 o’r Datganiad Ysgrifenedig yn darparu bod cydsyniad wedi cael ei roi i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn o ran ac ar ran Cymru, am resymau’n ymwneud ag effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd natur dechnegol y diwygiadau. Ni hysbyswyd y Pwyllgor hwn gan Lywodraeth Cymru o’i bwriad i gydsynio i OS Llywodraeth y DU, na’r rhesymeg dros y bwriad i gydsynio.

 

Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at y Pwyllgor hwn ar 7 Ionawr 2022, gan nodi ei fod wedi cydsynio i Lywodraeth y DU arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru, a bod cytundeb wedi’i roi i wneud y Rheoliadau hyn. O ran ymrwymiad y Prif Weinidog fel y’i nodir yn y llythyr dyddiedig 8 Tachwedd, mae’r Cwnsler Cyffredinol yn nodi:

Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo, lle bo amser yn caniatáu, y byddwn yn rhoi cyfle i'r Senedd fynegi barn cyn rhoi caniatâd yn ffurfiol. Yn anffodus, nid oedd yn bosibl gwneud hynny ar gyfer yr OS hwn oherwydd er mai dim ond yn ddiweddar y cafodd ei osod, rhoddwyd caniatâd rai wythnosau'n ôl a chyn i'r ymrwymiad gael ei weithredu.

 

Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.